Y Plough Rhosmaen, Llandeilo, Cymru
Gwesty boutique a bwyty hyfryd wedi’i leoli yn harddwch Dyffryn Tywi, yn ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gyda chestyll, plastai gwledig, teithiau cerdded ac, wrth gwrs, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, o’i gwmpas.
Yn y Plough Inn mae gennym groeso, bwyd da a gwinoedd gwych ar eich cyfer, a chewch eu mwynhau mewn awyrgylch gynnes a hamddenol, gyda’r cyfan wedi’i weini â’r cyffyrddiad personol hollbwysig yna.
Ystafelloedd Gwely
Ymlaciwch yn llonyddwch Dyffryn Tywi mewn llety sydd wedi’i leoli mewn man arbennig. Allech chi ddim gofyn am fwy: golygfeydd hardd o bob un o’n 14 ystafell en suite sydd â phopeth y byddech yn ei ddisgwyl ar gyfer eich arhosiad - gwelyau maint brenhines, mynediad i’r rhyngrwyd drwy fand eang diwifr, soffas a chyfleusterau i’r anabl - yr oll wedi’u cyflwyno’n berffaith gyda’n gofal mawr am fanylion. Pam na wnewch chi gymryd mantais o’n campfa a’n sawna er mwyn dadflino ac ymlacio yn ystod eich arhosiad?
Cyfarfodydd
Cadwch y Plough Inn yn Rhosmaen mewn cof ar gyfer eich holl anghenion Busnes a Chynadledda, sy’n cyfuno lleoliad traddodiadol gyda’r diweddaraf mewn technoleg cyfathrebu. Yn addas dros ben ar gyfer eich anghenion cynadledda, gyda lle i 80 o westai eistedd, bydd ein cyfleusterau yn creu lleoliad proffesiynol sy’n ategu ein profiad gwesty a chiniawa ar gyfer eich holl gynrychiolwyr. Rhowch glic isod ar gyfer ein llyfryn cynhadledd neu rhowch alwad i ni i drafod eich anghenion penodol.
Gweinir prydau bwyd yn y bwyty neu’r ystafell gynadledda fel arfer. Fodd bynnag, gellir bwyta ar y teras sy’n edrych dros yr ardd os yw’r tywydd yn caniatáu. Mae’r bwyd a diod yn cynnwys te/coffi a’n pice ar y maen enwog, bwffes, a bwydlen A la Carte. Mae’r oll o’r rhain yn cael eu gweini rhwng 7am a 9.30pm. Yn naturiol, mae’r bar yn agored yn hwyrach. Mae cynadleddau preswyl yn opsiwn hefyd gan fod gan y gwesty bedair ar ddeg o ystafelloedd gwely.
Priodasau
Treuliwch ddiwrnod mwyaf arbennig eich bywyd yma gyda ni yn y Plough Inn, Rhosmaen, gyda’n tîm profiadol yn sicrhau fod eich diwrnod yn achlysur i’w gofio. Bydd ein cydlynydd priodas profiadol wrth law drwy gydol y broses o gynllunio’r briodas i drafod eich holl anghenion, o liwiau’r napcynau i ffynhonnau Siampaen. Gall ein swît ciniawa eistedd hyd at 120 o westai a gellir darparu ar gyfer hyd at 200 o westai ar gyfer y parti nos. Rydym wedi’n trwyddedu i berfformio seremonïau sifil yn y gwesty.
Bwyty
Cymysgedd cynnil o arddulliau modern a thraddodiadol ynghyd ag awyrgylch gynnes a chroesawgar. Mae gan y Plough Inn enw da ledled y wlad diolch i’w ymrwymiad i ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau, wedi’u coginio gan ddefnyddio arddulliau newydd a chyffrous a bwydlen sydd â’r dewis o hen ffefrynnau neu brydau mwy gwahanol, gyda seler win helaeth a dewis gwych o goffi i orffen.
Ardal
Mae cestyll yn ein hamgylchynu yn Llandeilo. Castell Dinefwr, Dryslwyn, a’r mwyaf mawreddog ohonynt i gyd, sef Carreg Cennen. Cewch deimlo curiad y gwaed yn cyflymu wrth i chi anadlu’r awyr iach a phrofi’r golygfeydd ysblennydd.
Ceir golygfeydd hardd drwy’r ardal gyfan, o henebion megis Tŵr Paxton at y ffyrdd trawiadol sy’n croesi’r Mynydd Du ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cafwyd agoriad swyddogol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ymyl Llanarthne ger Llandeilo adeg y mileniwm. Y Tŷ Gwydr Mawr, a gynlluniwyd gan Norman Foster, yw canolbwynt y Gerddi. Agorwyd Aberglasne, sydd ond bedair milltir i ffwrdd, ar 4 Gorffennaf 1999, ac mae’n cynnwys gerddi, llwybr cerdded a thwnnel coed hynafol sydd bellach wedi eu hadfer. Mae yna ardd goed a pharc ceirw ym Mharc Gelli Aur.
Er ein bod yng nghanol Dyffryn Tywi, mae llawer o draethau o fewn cyrraedd awr o siwrnai. Mae traethau godidog Gŵyr, Rhosili, Three Cliffs, Oxwich, Langland, a Bae Caswell yn fannau sydd wastad yn boblogaidd. Ceir traeth a thwyni tywod hyfryd ym Mharc Gwledig Pembre ynghyd â chyfleusterau marchogaeth, seiclo, a hyd yn oed lethr sgïo sych. Mae gan Lansteffan draeth braf yn ogystal â chastell, a gellir mynd yn eich blaen i Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod ac arfordir Sir Benfro y tu draw i hynny.
RHOWCH ALWAD NEU ARCHEBWCH AR-LEIN I DREFNU EICH YMWELIAD PERFFAITH Â CHYMRU!
The Plough
Rhosmaen
Llandeilo
Carmarthenshire
South Wales
UK SA19 6NP
Tel: 01558 823 431
Fax: 01558 823 969
Email: info@ploughrhosmaen.com
|